Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

Offerynnau Statudol Gydag Adroddiadau Clir

19 Mai 2014

 

 

CLA400 -  Rheoliadau Ffedereiddio Ysgolion a Gynhelir (Cymru)

2014
Gweithdrefn:  Cadarnhaol

Roedd Mesur Addysg Cymru 2011 yn rhoi'r pŵer i awdurdodau lleol sefydlu ffederasiwn o ddwy neu fwy o ysgolion gan ddefnyddio proses i'w nodi mewn rheoliadau. Mae'r Rheoliadau hyn yn nodi'r broses y mae'n ofynnol i awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu eu dilyn er mwyn ffedereiddio, dad-ffedereiddio neu ddiddymu ffederasiwn; yn nodi cyfansoddiad ac aelodaeth corff llywodraethu wedi'i ffedereiddio, sydd rhwng 15 a 27 o lywodraethwyr; yn pennu uchafswm o chwech o ran nifer yr ysgolion a gaiff ffedereiddio ac yn nodi'r fframwaith llywodraethu y caiff cyrff llywodraethu weithredu a chynnal ei fusnes o'i fewn.   Yn ogystal, maent yn cydgrynhoi, gyda rhai gwelliannau, Rheoliadau Ffedereiddio Ysgolion a Gynhelir a Diwygiadau Amrywiol (Cymru) 2010 ac yn dirymu'r Rheoliadau hynny. 

CLA401 – Gorchymyn Addysg (Ysgolion Bach) (Cymru) 2014

Gweithdrefn:  Cadarnhaol

 Mae'r Gorchymyn hwn yn nodi ysgol fach a gynhelir at ddibenion Pennod 1 o Ran 2 o Fesur Addysg (Cymru) 2011 ("Mesur 2011").  Mae'r bennod honno'n nodi'r fframwaith statudol ar gyfer ffedereiddio ysgolion a gynhelir.   Mae Adran 11 o Fesur 2011 yn darparu y caiff awdurdod lleol wneud cynigion i ffedereiddio ysgolion ac nad yw rhai darpariaethau penodol sy'n ymwneud â chyhoeddi ac ymgynghori yn gymwys i gynnig i ffedereiddio dim ond ysgolion bach.

CLA402 - Gorchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2014

Gweithdrefn
:  Cadarnhaol

Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2006 sy'n cynnwys mesurau sy'n atal heintiau ac afiechydon niweidiol ymysg planhigion rhag dod i mewn a lledaenu. Mae'n ymestyn y cynllun hysbysiad statudol ar gyfer rhywogaethau penodol o goed i gynnwys deunyddiau planu llwyfen a hefyd yn gweithredu Cyfarwyddeb Gweithredu'r Comisiwn 2014/19/EU a Chyfarwyddeb Gweithredu'r Comisiwn 2014/62/EU a Chyfarwyddeb Gweithredu'r Comisiwn 2014/62/EU.